top of page

I Staff Cyflenwi

Mae Taro Nod yn pontio'r bwlch rhwng ysgolion a staff cyflenwi Cymraeg, gan sicrhau addysg ddi-dor i ddisgyblion a chreu awyrgylch croesawgar a theg i bawb.

​

​Rydym yn ymdrechu i gynnal llif addysg esmwyth, gan gynnig taliadau amserol a dibynadwy I’r staff cyflenwi a sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle gorau i ffynnu yn yr iaith Gymraeg.

Hyblygrwydd

​​Rydym yn cynnig hyblygrwydd llwyr - dywedwch wrthym pryd y gallwch chi weithio, a byddwn yn trefnu'r dyddiau hynny i chi.

Os nad ydych chi ar gael, dim problem! Mae croeso i chi ddweud na. 

Dewis eang o swyddi addysgu

Cewch ddod o hyd i amrywiaeth o swyddi addysgu gyda ni - gallwch chi weithio fel cynorthwyydd dosbarth, cynorthwyydd dosbarth lefel uwch, neu fel athro/athrawes cymwys.

Cyflog gwych

Mae ni'n cynnig cyfraddau cyflog cystadleuol iawn - yn uwch na'r rhan fwyaf o'n cystadleuwyr - oherwydd rydym yn gwerthfawrogi eich proffesiynoldeb a'ch cyfraniad at y genhedlaeth nesaf.

Cyflog prydlon

Rydym yn credu mewn talu'n brydlon - rhywbeth sy'n hollol naturiol yn ein barn ni, ond yn anffodus nid yw'n cael ei ymarfer fel hyn ym mhobman. Gyda ni, os ydych chi'n gweithio, rydych chi'n cael eich talu.

Adborth gan ein staff cyflenwi

School Kids

Aelwen Blythe

Rydw i wedi bod yn gweithio gyda Taro Nod ers pum mlynedd, ac maen nhw'n gwmni cyfeillgar, cefnogol a phroffesiynol sy'n cynnig gwasanaeth personol ac yn dod o hyd i waith sy'n gweddu i mi.
bottom of page